
09/06/2025
Llongyfarchiadau i Glinig Cyngor Cyfreithiol Prifysgol Bangor sydd wedi ennill y Wobr Pro Bono yng Ngwobrau News Legal Wales 2025, y gwobrau cyntaf o’u math.
Mae Gwobrau News Legal Wales yn dathlu rhagoriaeth, arloesedd ac arweinyddiaeth ar draws y proffesiwn cyfreithiol yng Nghymru. Mae categori'r Pro Bono yn cydnabod sefydliadau sy'n darparu cefnogaeth gyfreithiol wirfoddol rhagorol i unigolion a chymunedau mewn angen.
Cynhaliwyd y seremoni yng Ngwesty'r Cardiff Marriott ddydd Iau 5 Mehefin 2025, ac yn cyflwyno roedd y ddarlledwraig a'r newyddiadurwraig Sian Lloyd. Daeth arweinwyr cyfreithiol Cymru ynghyd i dynnu sylw at y rhai sy'n llunio dyfodol y proffesiwn – ac sy'n cryfhau cymunedau a'r economi drwy eu gwaith.
Mae Clinig Cyngor Cyfreithiol Prifysgol Bangor yn darparu cyngor cyfreithiol am ddim i aelodau'r cyhoedd, gan gynnig profiad cyfreithiol ymarferol i fyfyrwyr dan oruchwyliaeth staff cymwysedig.
Dywedodd y beirniaid :
"Mae ein barnwyr yn dathlu effaith y clinig a chyrhaeddiad cyngor cyfreithiol pro bono, er fod y clinig o dan flwydd oed. Dywedon nhw fod 170+ o gleientiaid mewn blwyddyn, gyda mynediad dwyieithog, ac effaith wirioneddol yn un i ni i gyd ei ddathlu a'i gefnogi".
Dywedodd Tracey Horton, Cyfarwyddwr y Clinigol: "Roeddem wrth ein bodd gyda'r wobr hon sy'n cydnabod y gwaith caled a wnaed gan staff myfyrwyr i sicrhau bod ein blwyddyn gyntaf yn llwyddiant go iawn. Bydd y cyhoeddusrwydd a gawn o'r gwobrau hyn yn cryfhau ein strategaeth recriwtio ar gyfer y gyfraith ac yn sicrhau ein bod yn parhau i ffynnu yn y dyfodol."