05/10/2026
Wythnos ddiwethaf, fe deithiodd Dr Rhian Hodges i Gdańsk, Gwlad Pwyl, i gymryd rhan mewn Cynhadledd Ryngwladol ar allfudo, mewnfudo ac integreiddio.
Yn ystod y gynhadledd, cyd-gadeiriodd Dr Hodges banel trafod ar y thema "Iaith ar Draws Ffiniau" gyda Dr Karolina Rosiak o Brifysgol Adam Mickiewicz, Poznań. Roedd y sesiwn yn archwilio rôl iaith ym mhrofiadau pobl sy'n symud rhwng gwledydd a chymunedau, a'r heriau a'r cyfleoedd sy'n deillio o hynny. Mae'r panel yn rhan o brosiect ymchwil sydd ar waith rhwng Rhian a Karolina sy'n edrych ar gymhellion mudwyr rhyngwladol dros ddysgu'r Gymraeg.
Mae ymchwil a thrafodaethau ar allfudo, mewnfudo ac integreiddio yn hanfodol ym maes Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol er mwyn deall bywydau unigolion yn well, yn ogystal â'r ffyrdd y mae cymdeithasau'n newid ac yn datblygu mewn byd cynyddol gysylltiedig.
----
Dr Rhian Hodges recently travelled to Gdańsk, Poland, to participate in an International Conference on emigration, immigration and integration.
During the conference, Dr Hodges co-chaired a panel discussion entitled "Language Across Borders" alongside Dr Karolina Rosiak from Adam Mickiewicz University, Poznań. The session explored the role of language in the experiences of people moving between countries and communities, as well as the challenges and opportunities that arise through migration and integration. The panel is part of a research project being carried out between Rhian and Karolina looking at what motivates international learners to study Welsh.
Research and discussion on emigration, immigration and integration are key subjects in Sociology and Social Policy and are vital for improving our understanding of individual lives, while also helping us better understand how societies evolve and respond to an increasingly interconnected world.