Canolfan Llywodraethiant Cymru

Canolfan Llywodraethiant Cymru Un o ganolfannau ymchwil Prifysgol Caerdydd yw Canolfan Llywodraethiant Cymru. Mae'n cynnal ymchwil arloesol am y gyfraith a gwleidyddiaeth yng Nghymru.

Canolfan ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd yw Canolfan Llywodraethiant Cymru ac mae’n ymgymryd ag ymchwil arloesol ar bob agwedd ar gyfraith, gwleidyddiaeth, llywodraeth ac economi gwleidyddol Cymru, ynghyd â chyd-destunau ehangach llywodraethiant diriogaethol yn y Deyrnas Unedig ac Ewrop. Un o amcanion allweddol y Ganolfan yw hwyluso a hyrwyddo trafodaeth gyhoeddus wybodus ynglŷn â’r datblygiadau di

weddaraf yn llywodraethiant Cymru, nid yn unig trwy waith ymchwil y Ganolfan, ond hefyd trwy drefnu digwyddiadau a thrwy addysgu ôl-raddedigion. Mae’r Ganolfan yn cael ei noddi a’i chefnogi gan Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth Prifysgol Caerdydd ac mae hefyd yn cydweithio ag ysgolheigion eraill ar draws y Brifysgol. Mae gan y Ganolfan gysylltiadau ffurfiol â WISERD ac â’r Sefydliad Materion Cymreig. Yn ogystal â hynny, mae ganddi berthynas gydweithredol agos â chydweithwyr mewn sefydliadau eraill ledled Cymru, y Deyrnas Unedig, Ewrop a’r tu hwnt.

Bydd Canolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd yn cychwyn 2024 gyda anerchiad bwysig gan Arweinydd newydd Plaid ...
08/12/2023

Bydd Canolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd yn cychwyn 2024 gyda anerchiad bwysig gan Arweinydd newydd Plaid Cymru, ar 9 Ionawr.

O dan y teitl ‘Gweledigaeth ar gyfer uchelgais: pam mae’n rhaid i degwch fod yn economaidd ac yn gymdeithasol’, bydd araith Rhun ap Iorwerth AS yn cyflwyno ei weledigaeth ar gyfer tegwch ac adnewyddiad economaidd.

Yn dilyn blwyddyn heriol i aelwydydd Cymru yn dilyn chwyddiant a’r argyfwng costau byw, dyma gynnig syniadau newydd ynglŷn â dyfodol economaidd Cymru...

Bydd Canolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd yn cychwyn 2024 gyda anerchiad bwysig gan Arweinydd newydd Plaid Cymru

Mae mewnfudo i Gymru yn chwarae rhan hanfodol wrth wrthbwyso demograffeg poblogaeth sy’n heneiddio’n gyflym, yn ôl adrod...
05/12/2023

Mae mewnfudo i Gymru yn chwarae rhan hanfodol wrth wrthbwyso demograffeg poblogaeth sy’n heneiddio’n gyflym, yn ôl adroddiad newydd gan dîm Dadansoddi Cyllid Cymru.

Mae’r adroddiad, a gyhoeddwyd gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd, yn dadansoddi patrymau mudo sgiliau-uchel yng Nghymru ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymell gweithwyr medrus a’u teuluoedd i aros yng Nghymru, drwy ystyried ad-dalu’r Gordal Iechyd Mewnfudo.

Mae’r adroddiad yn nodi bod 215,429 o unigolion a aned dramor yn galw Cymru’n gartref, gan gyfrannu at yr economi a llywio demograffeg y dyfodol mewn gwlad sy’n heneiddio fel arall

Bydd dyfodol rhannu pŵer a datganoli yn cael ei drafod wrth i wleidydd blaenllaw o’r SDLP, Claire Hanna AS, ymweld â Cha...
24/11/2023

Bydd dyfodol rhannu pŵer a datganoli yn cael ei drafod wrth i wleidydd blaenllaw o’r SDLP, Claire Hanna AS, ymweld â Chaerdydd i draddodi Darlith Flynyddol Canolfan Llywodraethiant Cymru eleni.

Mae angen cofrestru ar gyfer y digwyddiad a gynhelir yn adeilad y Pierhead ym Mae Caerdydd ddydd Llun Rhagfyr 4ydd. Croeso i bawb!

The future of power-sharing and devolution will be under the spotlight in this lecture by a leading SDLP politician

Mae nifer y bobl sy'n cysgu ar y stryd ar ôl cael eu rhyddhau o'r carchar wedi mwy na threblu yng Nghymru, yn ôl ffigura...
15/11/2023

Mae nifer y bobl sy'n cysgu ar y stryd ar ôl cael eu rhyddhau o'r carchar wedi mwy na threblu yng Nghymru, yn ôl ffigurau newydd gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru, Prifysgol Caerdydd.

Yn ei ffeil ffeithiau Carchardai yng Nghymru, mae data gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn dangos bod 332 o bobl a reolir gan wasanaethau prawf Cymru yn cysgu ar y strydoedd yn 2023, o'i gymharu â 107 yn 2022. Mae hyn yn cyfateb i godiad o 210%.

Mae “set barhaus o broblemau” yn dychwelyd wrth i'r system gyfiawnder wella o Covid-19, daw adroddiad i'r casgliad

Diweddariad Marchnad Lafur Cymru yw’r adroddiad diweddaraf gan dîm Dadansoddi Cyllid Cymru, ac mae’n datgelu cyfres o ga...
13/11/2023

Diweddariad Marchnad Lafur Cymru yw’r adroddiad diweddaraf gan dîm Dadansoddi Cyllid Cymru, ac mae’n datgelu cyfres o ganfyddiadau sylweddol ar waith, cyflogau a gweithgarwch economaidd yng Nghymru...

Diweddariad Marchnad Lafur Cymru yw’r adroddiad diweddaraf gan dîm Dadansoddi Cyllid Cymru, ac mae’n datgelu cyfres o ganfyddiadau sylweddol ar waith, cyflogau a gweithgarwch economaidd yng Nghymru

Mae awdurdodau lleol yng Nghymru yn wynebu bwlch cyllidol o £744m erbyn 2027, yn ôl adroddiad gan Ganolfan Llywodraethia...
25/10/2023

Mae awdurdodau lleol yng Nghymru yn wynebu bwlch cyllidol o £744m erbyn 2027, yn ôl adroddiad gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru, Prifysgol Caerdydd.

Gallai pwysau gwariant arwain at doriadau pellach mewn gwasanaethau cyhoeddus

Bydd Aelod blaenllaw o’r Senedd yn ymateb i’r cynigion newydd i ehangu a diwygio'r Senedd yn ystod prif ddarlith a gynhe...
29/09/2023

Bydd Aelod blaenllaw o’r Senedd yn ymateb i’r cynigion newydd i ehangu a diwygio'r Senedd yn ystod prif ddarlith a gynhelir gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd, ar Hydref 12fed...

Yn yr araith, bydd Adam Price yn cynnig cyfres o ‘syniadau radical’ i wella gallu a diwylliant y sefydliad, ac addysg ddinesig. Manylion llawn isod!

Price i gynnig diwygio radical mewn araith ar gyfer Canolfan Llywodraethiant Cymru

Ar ôl 50 mlynedd o wleidyddiaeth rheng flaen, mae Dafydd Wigley yn ymddeol o yrfa wleidyddol epig a welodd ddatblygiadau...
18/09/2023

Ar ôl 50 mlynedd o wleidyddiaeth rheng flaen, mae Dafydd Wigley yn ymddeol o yrfa wleidyddol epig a welodd ddatblygiadau mawr yn nemocratiaeth, cyfansoddiad a chenedligrwydd Cymru...

Nawr, bydd Canolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd yn cynnal 'Mewn Sgwrs gyda Dafydd Wigley', lle bydd y cyfwelydd arbenigol Rob Humphreys yn trafod gyda chyn Arweinydd Plaid Cymru, gan asesu ei yrfa a’i brofiad cyfan mewn gwleidyddiaeth a dadorchuddio myfyrdodau a mewnwelediadau newydd gan un o'r arweinwyr gwleidyddol mwyaf poblogaidd Cymru. Mae Mr Humphreys wedi cyfweld â ffigurau gan gynnwys Julia Gillard, Neil Kinnock a Michael Heseltine ar gyfer Canolfan Llywodraethiant Cymru, mewn sgyrsiau sy’n adnabyddus am eu manylion a’u hehangder...

Bydd Canolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd yn cynnal 'Mewn Sgwrs gyda Dafydd Wigley', lle bydd y cyfwelydd arbenigol Rob Humphreys yn trafod gyda chyn Arweinydd Plaid Cymru

14/09/2023

Beth mae pobl yn feddwl o Gymru a Phrydeindod a beth yw'r farn ar annibyniaeth i'r gwahanol wledydd? Hyn a lot lot mwy mewn sgwrs gyda'r Athro Richard Wyn Jones o Canolfan Llywodraethiant Cymru, Prifysgol Caerdydd. Bu RYC yn holi Richard am yr adroddiad ddiweddaraf ar agweddau at genedligrwydd o fewn Cymru a'r Deyrnas Unedig. Beth fydd oblygiadau i Gymru ac i ddyfodol y mudiad dros annibyniaeth? Holwyd gan Siôn Jobbins. 🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿🏴󠁧󠁢󠁳󠁣󠁴󠁿🏴󠁧󠁢󠁥󠁮󠁧󠁿🇬🇧

Dilynwch Radio Yes Cymru ar eich hoff app podlediadau ac ar sianel Youtube YesCymru.

🎧 Podlediad: https://podcasters.spotify.com/pod/show/radioyescymru/episodes/Yr-Athro-Richard-Wyn-Jones-11923--Cyfres-5-Pennod-23-Yn-Gymraeg--In-Welsh-e299nki
📺 Youtube YesCymru: https://www.youtube.com/watch?v=coxYefHRpRg

Mae adroddiad gan yr IPPR yn rhybuddio heddiw y gall yr agwedd “gyhyrog” tuag at ddiogelu undeb y Deyrnas Gyfunol a fabw...
07/09/2023

Mae adroddiad gan yr IPPR yn rhybuddio heddiw y gall yr agwedd “gyhyrog” tuag at ddiogelu undeb y Deyrnas Gyfunol a fabwysiadwyd gan lawer o wleidyddion yn ystod y blynyddoedd ddiwethaf brofi’n wrthgynhyrchiol, a hynny hyd yn oed ymhlith rhai o’r pleidleiswyr hynny yn yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon sydd am aros yn rhan o’r DG...

Mae llai na hanner pleidleiswyr unrhyw ran o’r wladwriaeth yn ystyried cynnal yr undeb ar ei ffurf bresennol yn flaenoriaeth

Mae Canolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd ac ITV Cymru Wales wedi cyhoeddi derbyniad i ddechrau blwyddyn wle...
31/08/2023

Mae Canolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd ac ITV Cymru Wales wedi cyhoeddi derbyniad i ddechrau blwyddyn wleidyddol newydd Cymru ym mis Medi...

Derbyniad ITV a Chanolfan Llywodraethiant Cymru i arddangos y data polau diweddaraf

Wrth siarad yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Moduan yn gynharach ym mis Awst, dangosodd yr Athro Richard Wyn Jones sut r...
16/08/2023

Wrth siarad yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Moduan yn gynharach ym mis Awst, dangosodd yr Athro Richard Wyn Jones sut roedd yr ‘Hollt Ddanheddog’ wedi gwaethygu problemau yng nghyfundrefn cyfiawnder troseddol Cymru...

Mae'r fideo llawn gan Brifysgol Caerdydd ar gael isod!

Data newydd yn cael ei drafod mewn digwyddiad yn yr Eisteddfod

Address

Y Pierhead, D/o Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Bae Caerdydd,
Caerdydd
CF99 1NA

Alerts

Be the first to know and let us send you an email when Canolfan Llywodraethiant Cymru posts news and promotions. Your email address will not be used for any other purpose, and you can unsubscribe at any time.

Shortcuts

Share