GwleidyddiaethAber

GwleidyddiaethAber Contact information, map and directions, contact form, opening hours, services, ratings, photos, videos and announcements from GwleidyddiaethAber, College & University, Yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol, Prifysgol Aberystwyth, Penglais, Aberystwyth.

Yr wythnos diwethaf bu Dr Huw Lewis, ynghyd â Margo Martin, sy'n un o fyfyrwyr PhD yr Adran, yn cyfrannu i’r gynhadledd ...
23/06/2026

Yr wythnos diwethaf bu Dr Huw Lewis, ynghyd â Margo Martin, sy'n un o fyfyrwyr PhD yr Adran, yn cyfrannu i’r gynhadledd ryngwladol ‘Multidisciplinary Approaches in Language Policy and Planning’ a gynhaliwyd ym Mhrifysgol Carleton yn Ottawa. Roedd eu cyflwyniadau’n trafod elfennau o’r prosiect ymchwil ‘Moeseg Integreiddio Ieithyddol’ sy’n cael ei ariannu gan Ymddiriedolaeth Leverhulme. Yn cyflwyno gyda nhw roedd Dr Gwennan Higham o sydd hefyd yn aelod o dim ymchwil y prosiect.

Gellir darllen mwy am y prosiect Moeseg Integreiddio Ieithyddol trwy ymweld â’r wefan: https://eli.qmul.ac.uk/hafan/

Yn ddiweddar, arweiniodd ein cydweithiwr, Dr Jana Wattenberg, seminar ar gyfer CND Cymru ar bwnc “Rhywedd a Gwleidyddiae...
23/06/2026

Yn ddiweddar, arweiniodd ein cydweithiwr, Dr Jana Wattenberg, seminar ar gyfer CND Cymru ar bwnc “Rhywedd a Gwleidyddiaeth Niwclear.” Seiliwyd cyflwyniad Jana ar ddeunydd sy’n deillio o’i phrosiect ymchwil “Menywod a'r Bom” sy’n ystyried sut y gellir defnyddio dadansoddiad ffeministaidd i wneud synnwyr o wleidyddiaeth arfau niwclear.

Yn ei rôl fel Arweinydd Ymchwil ar gyfer Academi Heddwch Cymru, traddododd yr Athro Emeritws Colin McInnes ddarlith gyho...
23/06/2026

Yn ei rôl fel Arweinydd Ymchwil ar gyfer Academi Heddwch Cymru, traddododd yr Athro Emeritws Colin McInnes ddarlith gyhoeddus ym Mhrifysgol Wrecsam ar ddydd Llun, 22 Mehefin. Teitl y ddarlith oedd “Cymru fel Cenedl Heddwch”, a bu Colin yn dadansoddi’r achos dros uchelgais o’r fath mewn cyfnod o wrthdaro cynyddol ledled y byd, yn ogystal â’r hyn y gallai cenedl heddwch ei olygu yn ymarferol.

Roedd Dr Anwen Elias yn un o'r arbenigwyr a ofynnwyd i drafod beth y gellir ei ddisgwyl o'r etholiadau gwahanol a fydd y...
20/04/2026

Roedd Dr Anwen Elias yn un o'r arbenigwyr a ofynnwyd i drafod beth y gellir ei ddisgwyl o'r etholiadau gwahanol a fydd yn cael eu cynnal yng Nghymru, yr Alban a Lloegr ar ddechrau mis Mai.

Five experts tell us what they will be keeping their eye on during the May elections in England, Scotland and Wales.

Yn ddiweddar bu Dr Elin Royles yn arwain y gwaith o ail-sefydlu Rhwydwaith Iaith WISERD. Amcan y rhwydwaith fydd cynnal ...
20/04/2026

Yn ddiweddar bu Dr Elin Royles yn arwain y gwaith o ail-sefydlu Rhwydwaith Iaith WISERD. Amcan y rhwydwaith fydd cynnal ystod o ddigwyddiadau ar gyfer cyfnewid gwybodaeth a rhyngweithio rhwng ymchwilwyr ac ymarferwyr sy’n ymwneud â pholisi iaith Gymraeg neu ymchwil i ieithoedd rhanbarthol neu leiafrifol eraill. WISERD yw Sefydliad Ymchwil Cymdeithasol ac Economaidd a Data Cymru.

Digwyddiad nesaf y rhwydwaith fydd seminar ar-lein 'Cyfle ein cenhedlaeth: Adroddiad 5-mlynedd Comisiynydd y Gymraeg'. Yn y seminar bydd Dr Eleri James, Dr Manon Davies a Hywel Iorwerth yn darparu trosolwg o brif ganfyddiadau'r adroddiad statudol Comisiynydd y Gymraeg ar sefyllfa'r iaith, gan gynnwys dadansoddiad o Gyfrifiad 2021. Ceir manylion pellach ar sut i gofrestru ar gyfer y digwyddiad trwy ddilyn y linc isod.

Mae Rhwydwaith Iaith WISERD yn cynnal ystod o ddigwyddiadau i gynnig cyfleoedd cyfnewid gwybodaeth a rhyngweithio rhwng ymchwilwyr ac ymarferwyr sy'n ymwneud â pholisi iaith Gymraeg neu ymchwil i ieithoedd rhanbarthol neu leiafrifol eraill. WISERD yw Sefydliad Ymchwil Cymdeithasol ac Economaidd a D...

Dros y semester hwn, mae myfyrwyr y modiwl Globaleiddio a Datblygiad Byd-eang wedi bod yn trafod y modd y caiff ceiswyr ...
17/04/2026

Dros y semester hwn, mae myfyrwyr y modiwl Globaleiddio a Datblygiad Byd-eang wedi bod yn trafod y modd y caiff ceiswyr lloches eu trin. Fel rhan o waith y modiwl, gofynnwyd i'r myfyrwyr lunio gludweithiau sy'n crynhoi themau pwysig o'u trafodaethau. Mae'r gwaith bellach i'w weld yng nghyntedd yr Adran.

Llongyfarchiadau i’n cydweithiwr Dr Aviva Guttmann ar ôl i’w chyfrol Operation Wrath of God wedi cyrraedd rhestr fer Gwo...
17/04/2026

Llongyfarchiadau i’n cydweithiwr Dr Aviva Guttmann ar ôl i’w chyfrol Operation Wrath of God wedi cyrraedd rhestr fer Gwobr Goffa Kjetil Hatlebrekke, a ddyfernir gan Ganolfan Astudio Cudd-wybodaeth Coleg y Brenin Llundain i gydnabod gwaith ymchwil blaenllaw ym maes diogelwch a chudd-wybodaeth.

The Kjetil Hatlebrekke Memorial Book Prize The Kjetil Hatlebrekke Memorial Book Prize is a biennial award recognising scholarship within the realm of…

Ar ddydd Mercher, 15 Ebrill, cyflwynodd yr Athro Berit Bliesemann de Guevara (ynghyd a’i chydweithwraig ymchwil, Rachel ...
17/04/2026

Ar ddydd Mercher, 15 Ebrill, cyflwynodd yr Athro Berit Bliesemann de Guevara (ynghyd a’i chydweithwraig ymchwil, Rachel Julian o Brifysgol Leeds Beckett) eu gwaith ar ddulliau di-drais ar gyfer amddiffyn sifiliaid fel rhan o gyfres o seminarau ar-lein ar bwnc dyfodol amddiffyn sifil. Mae’r gyfres seminarau, a gynhelir gan Academi Folke Bernadotte, yn dod â ymchwilwyr ynghyd â llunwyr polisi ac ymarferwyr. Trafododd Berit a Rachel eu hadroddiad a gyhoeddwyd gan y Sefydliad Heddwch Rhyngwladol.

An issue brief on local civilians’ roles in unarmed protection of civilians.

Address

Yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol, Prifysgol Aberystwyth, Penglais
Aberystwyth
SY233FE

Alerts

Be the first to know and let us send you an email when GwleidyddiaethAber posts news and promotions. Your email address will not be used for any other purpose, and you can unsubscribe at any time.

Share