22/06/2026
Meet the Team: Mark Needham (Ned)
Bridging the gap between cutting-edge research and real-world farming is at the heart of what Mark Needham (better known as Ned) does.
As an Agri Engagement Manager at IBERS, Ned works closely with farmers, advisors, agri-businesses and policymakers. His role is all about two-way knowledge exchange, bringing real challenges from the field into research design, and translating scientific outcomes into practical, on-farm solutions that make a difference.
What Ned enjoys most is being out in the industry; attending events, meeting people, and helping ensure that IBERS’ research delivers genuine impact. Just as importantly, he makes sure those working on the ground have a voice in shaping the research itself.
One of his proudest achievements is helping to build the network and knowledge platform for the Biomass Connect project, strengthening collaboration between science and industry.
Outside of work, Ned is deeply rooted in rural life. He’s a registered sheep shearing instructor with the British Wool Marketing Board, spends time coaching and managing junior rugby teams, and is often back on the farm looking after the flock.
--
Cwrdd â’r Tîm: Mark Needham (Ned)
Mae pontio’r gagendor rhwng ymchwil flaengar a ffermio yn y byd go iawn yn greiddiol i bopeth mae Mark Needham (neu Ned fel yr adwaenir ef) yn ei wneud.
Ac yntau’n Rheolwr Meithrin Cyswllt Amaeth yn IBERS, mae Ned yn cydweithio’n agos â ffermwyr, cynghorwyr, amaeth-fusnesau a llunwyr polisi. Mae ei swydd yn ymwneud â chyfnewid gwybodaeth, dod â heriau o’r caeau go iawn i waith dylunio ymchwil, a throi canlyniadau gwyddonol yn gamau ymarferol sy’n gwnaeth gwahaniaeth ar y fferm.
Yr hyn y mae Ned yn ei fwynhau fwyaf yw’r cyswllt â’r diwydiant, mynd i ddigwyddiadau, cwrdd â phobl, a helpu i sicrhau bod ymchwil IBERS yn creu effaith go iawn. Yr un mor bwysig yw ei waith yn sicrhau bod y rhai sy’n gweithio ar lawr gwlad yn cael llais wrth lunio’r gwaith ymchwil ei hun.
Un o’i gyflawniadau y mae’n ymfalchïo ynddo fwyaf yw helpu i adeiladu rhwydwaith a llwyfan gwybodaeth y prosiect Cyswllt Biomas, sy’n cryfhau’r cydweithredu rhwng gwyddoniaeth a diwydiant.
Y tu allan i’r gwaith, mae Ned yn byw a bod yng nghefn gwlad. Mae’r hyfforddwr cneifio defaid - cofrestredig â Bwrdd Marchnata Gwlân Prydain - yn hyfforddi a rheoli timau rygbi ieuenctid, ac yn aml mae yn ôl ar ei fferm yn gofalu am y ddiadell.