Geiriadur Prifysgol Cymru

Directions Website Contact the university

Geiriadur Prifysgol Cymru Geiriadur Prifysgol Cymru yw unig eiriadur Cymraeg hanesyddol safonol yr iaith Gymraeg. Mae ar gael Dechreuodd cynllun i baratoi'r Geiriadur ym 1921.

Casglwyd dros 2.5 miliwn o enghreifftiau a dechrau golygu'r gwaith ddiwedd yr 1940au. Cyhoeddwyd y rhan gyntaf o 61 yn 1950, a'r olaf yn 2002. Yn 2003 decreuwyd ailogygu'r Geiriadur gan ychwanegu llawer mwy o wybodaeth i bob erthygl. Yn 2010 penderfynwyd cyhoeddi'r Geiriadur ar lein. Mae ar gael mewn print (heb yr ychwanegiadau diweddar) ac ar lein (http://gpc.cymru) ac fel apiau Android, iOS, ac Amazon Fire (http://www.geiriadur.ac.uk/apiau-android-ac-ios/). Gellir ei gymharu’n fras o ran ei ddull a’i gwmpas â’r Oxford English Dictionary. Mae’n cyflwyno geirfa’r iaith Gymraeg o’r testunau Hen Gymraeg cynharaf, drwy lenyddiaeth doreithiog y cyfnodau Canol a Modern, hyd at y cynnydd aruthrol yn yr eirfa sy’n deillio o’r defnydd ehangach o’r iaith ym mhob agwedd ar fywyd yr hanner canrif diwethaf. Diffinnir yr eirfa hon yn Gymraeg, ond rhoddir cyfystyron Saesneg yn ogystal. Rhoddir sylw manwl i ffurfiau amrywiol, cyfuniadau, a tharddiad geiriau. Ychwanegir geiriau newydd at y Geiriadur yn barhaus. Hoffem glywed gennych drwy [email protected] am eiriau newydd ac am unrhyw wallau yn y gwaith.

Gair y Dydd hegydd https://www.geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html?gpc063368 Llysieuyn unflwydd, Cakile maritima, sy’n tyfu ar ...
08/10/2026

Gair y Dydd hegydd https://www.geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html?gpc063368 Llysieuyn unflwydd, Cakile maritima, sy’n tyfu ar draethau tywodlyd ac sy’n dwyn clystyrau bychain o flodau porffor gwelw; hegydd arfor, hegydd y forlan.

Word of the Day hegydd https://www.geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html?gpc063368 Sea rocket, Cakile maritima, an annual plant that grows on sandy beaches that produces little clusters of faintly purple flowers; also hegydd arfor, hegydd y forlan.

CC BY 4.0 Kieran Roy Powell https://commons.wikimedia.org/wiki/File:Cakile_maritima_Trefdraeth_cropped.jpg

Gair y dydd: yw https://geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html?gpc115476 'Unrhyw goed conifferaidd bytholwyrdd ... yn enw. Taxus b...
07/10/2026

Gair y dydd: yw https://geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html?gpc115476 'Unrhyw goed conifferaidd bytholwyrdd ... yn enw. Taxus baccata a blennir yn draddodiadol mewn mynwentydd'. Gwelir eglwys a cherrig beddi drwy ddail yr ywen yn y llun isod.

Word of the day: yw https://geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html?gpc115476 Yew trees are traditionally planted in churchyards, and are regarded as symbols of sadness, or linked with superstition. A church and gravestones can be glimpsed through the needles of the yew tree in the photograph.

Gair y Dydd: glais https://geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html?glais. Ei ystyr yw ‘nant, afonig, ffrwd’ ac mae’n digwydd mewn e...
06/10/2026

Gair y Dydd: glais https://geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html?glais. Ei ystyr yw ‘nant, afonig, ffrwd’ ac mae’n digwydd mewn enwau nentydd, fel Gwenlais, ac ar ei ben ei hun yn enw y Glais ger Abertawe. Ar y dyddiad hwn yn 1879 y ganwyd y bardd, pregethwr a gwleidydd a adnabyddir fel Niclas y Glais.

Word of the Day: glais https://geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html?glais. It means ‘a stream or rivulet’ and occurs in the names of rivers such as Gwenlais, and on its own in the name Glais near Swansea. It was on this date in 1879 that the poet, preacher and politician known as Niclas y Glais was born.

Gair y dydd: adref ‘i gyfeiriad ei gartref, tua thref’ https://www.geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html?adref. Dyma’r adeg o’r f...
05/10/2026

Gair y dydd: adref ‘i gyfeiriad ei gartref, tua thref’ https://www.geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html?adref. Dyma’r adeg o’r flwyddyn yr arferai bugeiliaid ddychwelyd adref o hafod y mynydd-dir i’r hendref ar lawr gwlad:
Adref af, mis Hydref yw, / Adeg mynd adref ydyw.
Word of the day: adref ‘homewards, home’ https://www.geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html?adref. At this time of year, shepherds used to return home from the upland summer residence (hafod) to the lowland winter residence (hendref).

Gair y dydd: madarch https://geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html?madarch Enw ar amryw fathau o ffwng, yn enwedig y rhai bwytadw...
30/09/2026

Gair y dydd: madarch https://geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html?madarch Enw ar amryw fathau o ffwng, yn enwedig y rhai bwytadwy sy'n cael eu hadnabod hefyd fel bwyd y barcud, y boda, y broga, a'r ellyllon, a chaws llyffant. Yn GPC gwelir hefyd yr enwau shrwmps, sirwms, a grawn bwytadwy. Beth yw eich enw chi amdanynt?

Word of the day: madarch https://geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html?madarch One of the many names for mushrooms found in GPC which include bwyd y barcud (food for the red kite)/boda (buzzard)/broga (frog), and ellyllon (goblins)! See also caws llyffant, shrwmps, sirwms, and grawn bwytadwy.

Gair y Dydd: gŵyl Fihangel https://www.geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html?gwyl_Fihangel. Mae’n ŵyl Fihangel heddiw, neu ddydd ...
29/09/2026

Gair y Dydd: gŵyl Fihangel https://www.geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html?gwyl_Fihangel. Mae’n ŵyl Fihangel heddiw, neu ddydd (dyw) gŵyl Fihangel, hen enwau sy’n mynd yn ôl i’r drydedd ganrif ar ddeg a’r bedwaredd ganrif ar ddeg.

Word of the Day: gŵyl Fihangel https://www.geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html?gwyl_Fihangel. Today is Michaelmas day or the festival of St. Michael, and the Welsh names ‘gŵyl Fihangel’ and ‘dyw gŵyl Fihangel’ date back to the thirteenth and fourteenth centuries.

28/09/2026

Rydym yn ymwybodol gellid gweld rhybuddion coch bod XSLT yn dod i ben yn Chrome, Edge, Firefox ayb, ac yn gweithio i newid y dechnoleg mae GPC yn ei defnyddio. Nid oes rhaid poeni am hyn yn y cyfamser. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra dros dro.

We are aware of possible red warnings that XSLT will be removed from Chrome, Edge, Firefox etc, and are working to change the technology that GPC uses. There is no need to be concerned in the meantime. Apologies for the temporary inconvenience.

Gair y dydd: BALCHDER https://geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html?balchder, a ddefnyddir mewn ystyr gadarnhaol, e.e. am bleser ...
28/09/2026

Gair y dydd: BALCHDER https://geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html?balchder, a ddefnyddir mewn ystyr gadarnhaol, e.e. am bleser neu foddhad rhywun am gyflawniad arbennig (fel balchder amlwg yr alarch yn y llun!); neu mewn ystyr negyddol, am goegfalchder, neu feddwl uchel rhywun ohono'i hun

Word of the day: BALCHDER https://geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html?balchder 'pride', used in a positive sense, as in the pride or pleasure one feels following an achievement (as in the swan's evident pride at producing her egg here); or in a negative sense for a high opinion of one’s self, or arrogance.

Croeso cynnes i Gyfeillion hen a newydd! Edrychwn ymlaen i'ch gweld.Friends old and new are very welcome - we look forwa...
25/09/2026

Croeso cynnes i Gyfeillion hen a newydd! Edrychwn ymlaen i'ch gweld.
Friends old and new are very welcome - we look forward to seeing you!

Address

Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Aberystwyth
SY233HH

Opening Hours

Monday 9am - 5pm
Tuesday 9am - 5pm
Wednesday 9am - 5pm
Thursday 9am - 5pm
Friday 9am - 5pm

Alerts

Be the first to know and let us send you an email when Geiriadur Prifysgol Cymru posts news and promotions. Your email address will not be used for any other purpose, and you can unsubscribe at any time.

Contact The University

Send a message to Geiriadur Prifysgol Cymru:

Shortcuts

Share