
21/02/2025
💬 Ydych chi erioed wedi meddwl dod yn Arweinydd Cyfoed? Dyma’ch cyfle!
Mae Arweinwyr Cyfoed yn helpu myfyrwyr newydd i ymgartrefu, gwneud yr Wythnos Groeso yn anhygoel, ac ennill sgiliau gwerthfawr ar hyd y ffordd. Eisiau darganfod mwy? Dewch i sgwrsio ag Arweinwyr Cyfoed presennol mewn sesiwn galw heibio:
📍 Dydd Mercher 26 Chwefror, 1pm-2pm – Tu allan i Undeb Bangor, 4ydd llawr, Pontio.
📍 Dydd Mawrth 11 Mawrth, 11am-12pm – Mesanîn, 2il lawr, Pontio.
📍 Dydd Llun 17 Mawrth, 2pm-3pm – Mesanîn, 2il lawr, Pontio.
Mae manteision gwych i fod yn Arweinydd Cyfoed – sgiliau cyflogadwyedd, cyfleoedd gwaith gyda thâl fel yn ystod Diwrnodau Agored fel Arweinydd Cyfoed, a chrys-t Arweinwyr Cyfoed swyddogol! 👕
Galwch heibio am sgwrs neu gwnewch gais nawr – mae’r ddolen yn ein bio! 🔗