Wedi'i sefydlu yn 1884, mae gan Brifysgol Bangor draddodiad hir o ragoriaeth academaidd ac mae’n mynd y tu hwnt i ddisgwyliadau o ran profiad myfyrwyr. Mae tua 11,000 o fyfyrwyr yn astudio yn y Brifysgol, gyda 650 o staff dysgu wedi eu lleoli o fewn tri ar hugain o ysgolion academaidd.
Mae Prifysgol Bangor yn y 40 uchaf yn y Deyrnas Unedig am ymchwil,* yn ôl y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) 2014. Cydnabu'r REF fod mwy na thri chwarter o ymchwil Bangor naill ai “gyda’r orau yn y byd” neu “yn cael ei chydnabod yn rhyngwladol”, sydd yn uwch na’r cyfartaledd ymysg holl brifysgolion y Deyrnas Unedig.
Mae Prifysgol Bangor wedi ennill Gwobr Aur, y raddfa uchaf posibl, yn y Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu cenedlaethol (FfRhA).
Cynhaliwyd yr asesiad FfRhA i ystyriaeth Ansawdd Addysgu, Amgylchedd Dysgu a Chanlyniadau Myfyrwyr a Budd Addysgol. Barnodd y Panel TEF bod Prifysgol Bangor yn darparu addysgu, dysgu a chanlyniadau rhagorol yn gyson i’w myfyrwyr. Maent o’r ansawdd orau a geir yn y DU.
Mwy: https://www.bangor.ac.uk/about/about-us.php.cy