18/01/2017
Rydym yn recriwtio ar gyfer astudiaeth newydd yn y labordy!
Mae Labordy Datblygiad Ymenyddol a Gwybyddol Bangor yn astudio sut mae defnyddio un neu ddwy iaith yn llunio gweithgarwch yr ymennydd yn ystod ei oes. Yn yr astudiaeth hon mae gennym ddiddordeb arbennig mewn pobl rhwng 65 ac 85 oed. Bydd y cyfranogwyr yn chwarae gêm gyfrifiadurol tra byddwn ni yn cofnodi gweithgarwch eu hymennydd. Gofynnir iddynt wasgu botwm pan fo goffer brown yn neidio allan o'r twll. Byddwn yn mesur gweithgarwch yr ymennydd yn defnyddio cap ac ynddo synwyryddion arbennig. Bydd ychydig bach o gel (megis gel sgan uwchsain) yn cael ei roi yn y cap dros bob synhwyrydd. Gofynnir i'r rhai sy'n cymryd rhan gyrraedd â gwalltiau glân a sych gan y bydd hyn o gymorth i gael signal clir. Hefyd byddwn yn gofyn i'r cyfranogwyr lenwi holiadur am eu cefndir.
Cedwir eich enw ac unrhyw wybodaeth bersonol yn hollol gyfrinachol ac ni fydd gwybodaeth o'r fath yn cael ei gynnwys yn unrhyw gyhoeddiad. Mae gennych hefyd yr hawl i dynnu’n ôl o’r arbrawf ar unrhyw adeg yn ystod y dasg, yn ogystal â'r hawl i dynnu eich data o'r arbrawf. Mae'r astudiaeth yn para rhwng awr a dwy awr. Bydd y cyfranogwyr yn cael £15 i'w digolledu am eu hamser a'u costau teithio.
Bydd cyfleusterau ar gael i chi olchi eich gwallt ar ôl y prawf os hoffech wneud hynny.
Meini prawf 65-80 oed - llaw dde, gwelediad normal neu wedi ei gywiro i normal, dim anhwylderau niwrolegol
Meini prawf gwaharddol - dallineb lliw, anhwylderau niwrolegol, plât metel yn y penglog, mewnblaniadau yn y cochlea (mae teclynnau clyw yn iawn os gallwn eu diffodd yn ystod y prawf), pobl llaw chwith.
I gael rhagor o wybodaeth neu i drefnu apwyntiad, cysylltwch ag: Elena Neophytou,[email protected]
Ffôn: 01248 388828 / 01248 382625, Labordy Datblygiad Ymenyddol a Gwybyddol Bangor, Prifysgol Bangor, Ysgol Seicoleg
________________________________________________________________________
We’re recruiting for a new study in the lab!
The Bangor Brain and Cognitive Development Lab is studying how using one or two languages shapes brain activity across the lifespan. In this study we are particularly interested in people between 65 - 85 years of age. Participants will play a computer game while we record their brain activity. They will be asked to press a button when a brown gopher pops out of the gopher hole. We measure brain activity using a cap with special sensors. A small amount of gel (like ultrasound gel) will be inserted into the cap at each sensor. Participants will be asked to arrive with clean and dry hair as this will help us get a clear signal. We will also ask participants to fill out a background questionnaire.
Your name and any personal information will be kept in full confidence and will not be associated with any publication. You also have the right to withdraw from the experiment at any time during the task, as well as the right to withdraw your data from the experiment. The study takes between one and two hours. Participants will be given £15 to compensate them for their time and travel.
Facilities will be available for you to wash your hair after testing if you would like to do so.
Criteria 65-80 years of age -right handed, normal or corrected to normal vision, no neurological disorders
Exclusionary criteria - colour blindness, neurological disorder, metal plate in skull, cochlear implants (hearing aid is ok if we can turn it off during testing), left handed.
For further information, or to arrange an appointment, please contact: Elena Neophytou, [email protected]
Phone: 01248 388828 / 01248 382625, Bangor Brain and Cognitive Development Lab, Bangor University, School of Psychology