Techiaith

Techiaith Mae Uned Technolegau Iaith Canolfan Bedwyr yn uned ymchwil hunan-gynhaliol sy’n datblygu adnoddau

Mae Uned Technolegau Iaith Canolfan Bedwyr yn uned ymchwil hunan-gynhaliol sy’n datblygu adnoddau iaith ar gyfer y Gymraeg, yr ieithoedd Celtaidd eraill, a sefyllfaoedd amlieithog. cwmwl_geiriau_glaswyrdd_fflatMae’r Uned yn gyfrifol am Cysgliad, y pecyn gwirio iaith a chasgliad o eiriaduron cynhwysfawr, ynghyd â nifer o offer gwirio iaith eraill. Mae’n gwneud gwaith safoni termau, a hefyd wedi dat

blygu geiriaduron electronig ar CD ac ar y we. Mae’n datblygu technoleg lleferydd ar gyfer y Gymraeg ac ieithoedd eraill, ac yn cynnal cronfeydd data enwau lleoedd ar y we. Mae’r Uned hefyd yn datblygu deunyddiau dysgu drwy gymorth cyfrifiadur, gan gynnwys gemau iaith. Mae gan yr Uned gysylltiadau agos â nifer o adrannau academaidd yn y brifysgol, gan gynnwys Cymraeg, Ieithyddiaeth, Ieithoedd Modern, Cymdeithaseg a Gwyddorau Gofal Iechyd. Mae ganddi hefyd gysylltiad agos â byd busnes a diwydiant, ac mae’n ymgymryd â chynlluniau Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth (KTP).

Swydd yn dal i fod ar gael i weithio efo ni fel is-ddatblygwr meddalwedd
22/11/2024

Swydd yn dal i fod ar gael i weithio efo ni fel is-ddatblygwr meddalwedd

**SWYDD NEWYDD**

>> Tiwtor Cymraeg ar gyfer y Gweithlu Addysg
>> Canolfan Bedwyr, Prifysgol Bangor

Manylion yma >> https://bit.ly/4aSuUSV

Address

Uned Technolegau Iaith, Canolfan Bedwyr, Neuadd Dyfrdwy, Ffordd Y Coleg
Bangor
LL572DG

Alerts

Be the first to know and let us send you an email when Techiaith posts news and promotions. Your email address will not be used for any other purpose, and you can unsubscribe at any time.

Share