Prifysgol Caerdydd

Call Directions Website

Prifysgol Caerdydd Tudalen Facebook swyddogol Prifysgol Caerdydd. Rydym yn darparu profiad addysgol rhagorol ar gyfer ein myfyrwyr.

Rydym yn brifysgol uchelgeisiol ac arloesol gyda gweledigaeth feiddgar a strategol wedi ein lleoli mewn prifddinas hardd a llewyrchus.

Mae rhaglen Gŵyl Bod Dynol 2026 bellach yn fyw! Rydyn ni’n falch iawn o lansio rhaglen yr ŵyl eleni a gwahodd cymunedau ...
09/10/2026

Mae rhaglen Gŵyl Bod Dynol 2026 bellach yn fyw!
 
Rydyn ni’n falch iawn o lansio rhaglen yr ŵyl eleni a gwahodd cymunedau ledled Caerdydd a De Cymru i ymuno â ni i ddathlu syniadau, creadigrwydd, diwylliant ac ymchwil o dan thema eleni: Croesffyrdd: lle penderfynu, cyfarfod a chanlyniadau. 
 
📅 5–14 Tachwedd 2026
🎟️ Mae’r holl ddigwyddiadau’n rhad ac am ddim
📍 Lleoliadau ledled Caerdydd
 
Porwch drwy’r rhaglen a cadwch eich lle heddiw - dolen yn ein bio 🔗

Eisiau cyfle i ennill a***n?💰 Mae Santander yn cynnig cyfle i 10 myfyriwr ennill £1,000 wrth i’r Grantiau Dyfodol Mwy Di...
08/10/2026

Eisiau cyfle i ennill a***n?💰
 
Mae Santander yn cynnig cyfle i 10 myfyriwr ennill £1,000 wrth i’r Grantiau Dyfodol Mwy Disglair ddychwelyd!

Boed yn helpu gyda rhent, biliau, offer astudio neu gostau byw, gallwch wario’r a***n fel y mynnwch. Does dim rhaid i chi fod â chyfrif banc gyda Santander i wneud cais!
 
⏰ Y dyddiad cau yw 3 Rhagfyr 2026
🔗 Gwnewch gais drwy’r ddolen yn ein bio

Ydych chi’n newyddiadurwr ar ddechrau eich taith? 🗞️ Neu’n chwilio am gyfle i ennill sgiliau newydd a gwneud ffrindiau t...
08/10/2026

Ydych chi’n newyddiadurwr ar ddechrau eich taith? 🗞️
 
Neu’n chwilio am gyfle i ennill sgiliau newydd a gwneud ffrindiau trwy gymdeithas eleni?
 
Papur newydd myfyrwyr Prifysgol Caerdydd, a sefydlwyd ym 1972 yw Gair Rhydd. Maen nhw’n cyhoeddi rhifynnau bob pythefnos, gan drafod pob math o bynciau.

Os hoffech chi gyfrannu at y papur anfonwch e-bost at y Prif Olygydd 2026/27, Ruaidhri Gillen Lynch - [email protected] am fwy o wybodaeth.

07/10/2026

Chwilio am bethau i’w gwneud yng Nghaerdydd?📍🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿
 
Dyma rai o’r lleoedd a’r gweithgareddau gorau i’ch helpu i fanteisio i’r eithaf ar yr hyn sydd gan y ddinas a’r brifysgol i’w gynnig.
 
💬 Beth yw eich hoff le yng Nghaerdydd? Rhannwch eich argymhellion gorau yn y sylwadau!

05/10/2026

Tesco ar bwys Senghennydd > (yn ôl bob sôn...) 👀

Pob enfawr lwc a🙏 i redwyr   sy’n cymryd rhan yn  yfory. Diolch yn fawr i bob myfyriwr, aelod o staff a chyn-fyfyriwr a ...
03/10/2026

Pob enfawr lwc a🙏 i redwyr sy’n cymryd rhan yn yfory.

Diolch yn fawr i bob myfyriwr, aelod o staff a chyn-fyfyriwr a fydd yn ymgymryd â’r her anferth hon. Hyd yn hyn, maen nhw wedi codi tua £30,000 dros ymchwil iechyd meddwl, niwrowyddoniaeth, a chanser ym Mhrifysgol Caerdydd.

Byddwn ni yno yn eich cefnogi chi ar Filltir 8 – rydych chi i gyd yn bencampwyr!

🔗 Eisiau rhedeg gyda yn 2027? Dolen yn y proffil

Mae ein hymchwilwyr wedi bod yn y penawdau eto ym mis Medi 🗞️ Mwy o am ein hymchwil blaenllaw yn y byd ar y ddolen yn ei...
02/10/2026

Mae ein hymchwilwyr wedi bod yn y penawdau eto ym mis Medi 🗞️
 
Mwy o am ein hymchwil blaenllaw yn y byd ar y ddolen yn ein proffil 🔗

Cymdeithasau ar gael yn Ffair y Glas Cardiff Students' Union 🎬💃☕🎂 Eisiau hobi newydd? Neu ffordd wych o gwrdd â ffrindia...
29/09/2026

Cymdeithasau ar gael yn Ffair y Glas Cardiff Students' Union 🎬💃☕🎂
 
Eisiau hobi newydd? Neu ffordd wych o gwrdd â ffrindiau newydd? Bydd ymuno â Chymdeithas neu bwyllgor yn Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd yn sicrhau bod eich amser yng Nghaerdydd yn fythgofiadwy!
 
Gyda dros 200 o gymdeithasau i ddewis ohonynt, mae rhywbeth at ddant pawb!🙌 Tagiwch eich ffefrynnau yn y sylwadau 👇

Edrych ar ôl eich iechyd meddwl yn y brifysgol 😌 Nid yw bob amser yn hawdd cydbwyso astudio a bywyd, felly mae gofalu am...
25/09/2026

Edrych ar ôl eich iechyd meddwl yn y brifysgol 😌
 
Nid yw bob amser yn hawdd cydbwyso astudio a bywyd, felly mae gofalu am eich iechyd meddwl yr un mor bwysig â gweithio’n galed
 
 Os byddwch chi’n teimlo bod angen ychydig o gymorth ychwanegol arnoch chi, dydych chi ddim ar eich pen eich hun. Mae gan Brifysgol Caerdydd ystod eang o adnoddau ar gael, beth bynnag rydych chi’n mynd drwyddo
 
 Ewch i’r ddolen yn ein bio neu chwiliwch am ‘Iechyd a Lles’ ar y fewnrwyd i gael gwybod mwy 🔗

“Does dim y ffasiwn beth â bod yn rhy hen i ailddechrau.” Ar ôl 15 mlynedd yn gweithio ym maes tai cymdeithasol, dychwel...
25/09/2026

“Does dim y ffasiwn beth â bod yn rhy hen i ailddechrau.”

Ar ôl 15 mlynedd yn gweithio ym maes tai cymdeithasol, dychwelodd Kate i ddysgu drwy’r Rhaglen Llwybr. Ar ôl ailddarganfod ei hyder a newid cyfeiriad gyrfaol, mae hi ar ei ffordd i ddod yn Therapydd Galwedigaethol.

Mae hi’n Wythnos Addysg Oedolion yr wythnos hon (21-27 Medi). Rydym yn arddangos y straeon o’n gymuned ddysgu ysbrydoledig a sut mae ein Sefydliad newydd ar gyfer Dysgu Hyblyg Gydol Oes yn gwneud dysgu’n hyblyg, yn hygyrch, ac wedi’i gynllunio o amgylch eich bywyd.

Cliciwch ar y ddolen yn ein bio i ddysgu rhagor.

Address

Cardiff
CF103AT

Alerts

Be the first to know and let us send you an email when Prifysgol Caerdydd posts news and promotions. Your email address will not be used for any other purpose, and you can unsubscribe at any time.

Shortcuts

Share