Celf a Dylunio Pcydds : Art and Design UWTSD

Call Directions Website Contact the university

Celf a Dylunio Pcydds : Art and Design UWTSD An art school experience in a contemporary University. Swansea College of Art : Profiad Ysgol Gelf mewn Prifysgol Gyfoes. Coleg Celf Abertawe

Mae Coleg Celf Abertawe yn cydnabod pwysigrwydd Cymru a'i Chymeriad Arbennig drwy ddathlu asedau a threftadaeth ieithyddol a diwylliannol arbennig Cymru. Ymgorffora’r Gyfadran ddiwylliant a threftadaeth Cymru o fewn addysgu a dysgu, gan greu'r cyfle i fyfyrwyr ryngweithio’n ddwyieithog mewn cyd-destun lleol a byd-eang. Gyda ffocws ar y myfyriwr mae’r Gyfadran Celf a Dylunio yn falch iawn o allu cynnig ei darpariaeth Celf a Dylunio yn ddwyieithog (Cymraeg / Saesneg). Ceir dysgu ac addysgu dwyieithog mewn amgylchedd sy'n canolbwyntio ar y dysgwr o fewn stiwdios a gweithdai sydd wedi eu neilltuo i’r ddarpariaeth amrywiol a gynigir.

Rydyn ni yn y digwyddiad UCAS Create Your Future yn ExCel Llundain heddiw ac yfory!Dere i’n gweld ar Stondin 53 i gael s...
13/10/2026

Rydyn ni yn y digwyddiad UCAS Create Your Future yn ExCel Llundain heddiw ac yfory!

Dere i’n gweld ar Stondin 53 i gael sgwrs am astudio yng Ngholeg Celf Abertawe, PCYDDS, dere i ddarganfod ble gallai dy greadigrwydd fynd â thi.

Mae digon i’w ddathlu hefyd:

Ffasiwn – 1af yn y DU

Cynhyrchu Ffilmiau a Ffotograffiaeth – 1af yn y DU

Celfyddyd Gain – 3ydd yn y DU

Animeiddio a Dylunio Gemau – 9fed yn y DU, 1af yng Nghymru

(Guardian University Guide 2027).

📍 UCAS Create Your Future | Stondin 53 | ExCeL Llundain

UCAS

Rydyn ni’n hynod falch i weld tri o’n graddedigion Coleg Celf Abertawe yn cyrraedd rhestr fer y Global Creative Graduate...
09/10/2026

Rydyn ni’n hynod falch i weld tri o’n graddedigion Coleg Celf Abertawe yn cyrraedd rhestr fer y Global Creative Graduate Showcase 2026 – platfform rhyngwladol sy’n dathlu talent greadigol sy’n dod i’r amlwg.

Anna Lynch (BA Dylunio Cynnyrch)
Amara - peiriant coffi premiwm cenhedlaeth gyntaf sy’n adlewyrchu ymagwedd feddylgar i ddylunio cynnyrch sy’n canolbwyntio ar fanylion.

Seren Trodden (BA Dylunio Crefftau)
Pypedau broc môr - ffurfiau mynegiannol wedi’u gwneud o froc môr, plu adar y môr a deunyddiau a gasglwyd ar hyd arfordir y Gŵyr

Sophie Drew (BA Patrymau Arwyneb a Thecstilau)
Glowgrove: The Understory - Prosiect tecstilau sydd wedi cyrraedd y rhestr fer yn y categori Ffasiwn, Tecstilau ac Ategolion

Mae’r ffaith eu bod wedi cyrraedd y rhestr fer yn dyst i’r creadigrwydd, yr arloesi a’r ymroddiad maent wedi’u hymddangos trwy gydol eu hastudiaethau yng Ngholeg Celf Abertawe Mae cael ffigurau blaenllaw o bob rhan o’r diwydiannau creadigol byd-eang yn gweld eu gwaith yn gyflawniad arbennig ac yn tynnu sylw at y dalent eithriadol sy’n dod i’r amlwg yn PCYDDS.

Bellach mae eu gwaith yn cael eu hystyried gan banel beirniadu rhyngwladol sy’n cynnwys ffigurau o Amazon, Google, Gucci, Heatherwick STudio, NYCxDESIGN a Zaha Hadid Acrhitects, ochr yn ochr â phleidlais gyhoeddus sy’n agored i gynulleidfaoedd ar draws y byd.

Rydyn ni mor falch. ❤️

Gall aelodau o’r cyhoedd weld a chefnogi’r prosiectau sydd ar y rhestr fer trwy blatfform pleidleisio Global Creative Graduate Showcase.
https://vote.artsthread.com/

Tecstilau PatrwmArwyneb GraddedigionCreadigol

Der i Ddarganfod dy Gyfeiriad Creadigol yn un o Ddiwrnodau Agored Coleg Celf Abertawe.Yn 1af yn y DU am Gelf, Ffasiwn a ...
24/09/2026

Der i Ddarganfod dy Gyfeiriad Creadigol yn un o Ddiwrnodau Agored Coleg Celf Abertawe.

Yn 1af yn y DU am Gelf, Ffasiwn a Thecstilau a Ffilm a Ffotograffiaeth, gydag addysgu sydd wedi ennill gwobrau a dysgu sydd â gyrfaoedd mewn golwg. Dere i weld Coleg Celf Abertawe â’th lygaid dy hun yn ein Diwrnod Agored nesaf.

Yn dilyn ein dathliad diweddar o’n canlyniadau sydd ar frig y DU ar draws Cynhyrchu Ffilmiau, Ffotograffiaeth, Celfyddyd...
18/09/2026

Yn dilyn ein dathliad diweddar o’n canlyniadau sydd ar frig y DU ar draws Cynhyrchu Ffilmiau, Ffotograffiaeth, Celfyddyd Gain a Ffasiwn a Thecstilau yn y Guardian University Guide 2027, dyma edrych yn fanylach ar beth sy’n gwneud ein rhaglen Ffasiwn a Thecstilau yn arbennig.

✨1af yn y DU am Ffasiwn a Thecstilau✨

“Mae bod yn y safle 1af unwaith eto yn gydnabyddiaeth bod meintiau grŵp bach, cyfleusterau ardderchog, prosiectau byw o safon ryngwladol a phrofiadau cyflogadwyedd cadarn yn fformiwla fuddiol i’n myfyrwyr. Dyma, ynghyd â’r ymdeimlad o berthyn a grëir trwy ein hamgylchedd ysgol gelf, sy’n gwneud y rhaglen hon yn lle arbennig iawn i weithio ac astudio ynddo.”

Georgia McKie, rheolwr rhaglen BA Patrymau Arwyneb a Thecstilau

Meintiau grwpiau bach, cyfleusterau rhagorol, prosiectau byw a phrofiadau cyflogadwyedd cryf – a’r cyfan mewn cymuned ysgol gelf gefnogol.

1af yn y DU, a rhaglen sydd â llawer i’w ddathlu. 🎉

Ffasiwn ColegCelfAbertawe PCYDDS

Rydym yn eithriadol o falch i rannu ein canlyniadau yn Guardian University Guide 2027 – am flwyddyn i Goleg Celf Abertaw...
14/09/2026

Rydym yn eithriadol o falch i rannu ein canlyniadau yn Guardian University Guide 2027 – am flwyddyn i Goleg Celf Abertawe PCYDDS. 🎉

🏆 1af yn y DU am Ffasiwn a Thecstilau
🏆 1af yn y DU am Gynhyrchu Ffilm a Ffotograffiaeth – am yr ail flwyddyn yn olynol
🥉 3ydd yn y DU am Gelf Gain

Mae’r canlyniadau hyn yn destament gwirioneddol i’n staff ymroddedig, sy’n cefnogi, herio ac ysbrydoli ein myfyrwyr bob dydd, ac i’n cymuned myfyrwyr gwych, y mae eu creadigrwydd, uchelgais a thalent yn sail i’n cyrsiau arbennig.

Llongyfarchiadau enfawr i’n myfyrwyr, staff a’n cymuned greadigol. Ry’n ni mor falch. ❤️

Cymera dy arfer creadigol i’r lefel nesaf gydag MA Deialogau Cyfoes.Mae ein portffolio ôl-raddedig yn cynnig amgylchedd ...
21/08/2026

Cymera dy arfer creadigol i’r lefel nesaf gydag MA Deialogau Cyfoes.

Mae ein portffolio ôl-raddedig yn cynnig amgylchedd dysgu rhyngddisgyblaethol unigryw, gyda mynediad at weithdai, cyfleusterau ac arbenigedd ar draws Coleg Celf Abertawe.

P’un a wyt ti’n awyddus i wthio dy arfer presennol i gyfeiriad newydd, arbrofi gyda phrosesau newydd neu ddatblygu dy syniadau trwy gydweithio, mae’r MA Deialogau Cyfoes yn rhoi lle i ti archwilio beth sydd nesaf.

Archwilia ein llwybrau ôl-raddedig:

* MA Celf Gain
* MA Dylunio Graffig
* MA Darlunio
* MA Ffotograffiaeth
* MA Delweddau Symudol
* MA Cyfathrebu Gweledol
* MA Tecstilau
* MA Crefftau Dylunio
* MA Dylunio
* MA Gwydr

🔎 Chwilia am Ddeialogau Cyfoes PCYDDS i ddysgu rhagor.

-raddedig

🎉 Dathlu ein canlyniadau yng Nghanllaw Prifysgolion y Dail Mail 2027!Rydym yn falch i ddod yn:1af yn y DU am Gelf1af yng...
19/08/2026

🎉 Dathlu ein canlyniadau yng Nghanllaw Prifysgolion y Dail Mail 2027!

Rydym yn falch i ddod yn:

1af yn y DU am Gelf
1af yng Nghymru, 2il yn y DU am Sinemateg a Ffotograffiaeth
1af yng Nghymru, 3ydd yn y DU am Astudiaethau Dylunio
1af yng Nghymru, Cydradd 2il yn y DU am Ragoriaeth Addysgu
1af yng Nghymru, 3ydd yn y DU am Gymorth Myfyrwyr
1af yng Nghymru, 3ydd yn y DU am Brofiad Myfyrwyr

Mae’n gydnabyddiaeth wych i’n cymuned greadigol ac i’r profiad rydym yn ei gynnig i’n myfyrwyr, o ddatblygu eich arfer a dysgu gan diwtoriaid profiadol i’r cymorth a gewch chi trwy gydol eich amser gyda ni.

Dere i greu, arbrofi a dod o hyd i dy lais dylunio. ✨Ar ein gradd Dylunio Graffig, byddi di’n gweithio ar friffiau diwyd...
24/07/2026

Dere i greu, arbrofi a dod o hyd i dy lais dylunio. ✨

Ar ein gradd Dylunio Graffig, byddi di’n gweithio ar friffiau diwydiant byw a phrosiectau cydweithredol wrth archwilio teipograffeg, brandio, cyfathrebu gweledol, pecynnu cynaliadwy a phrint.

Croesawn y newydd wrth ddathlu’r hen, gyda thechnoleg ddigidol yn sefyll yn gyfforddus ochr yn ochr â bysedd inc a chreu cynnyrch cyffyrddol.

Gyda mynediad at gyfleusterau arbenigol, yn cynnwys argraffu Risograff, argraffwaith, gwneud printiau a stiwdios dylunio digidol proffesiynol, byddi di’n cael dy annog i arbrofi gyda gwahanol brosesau, datblygu dy lais creadigol dy hun a darganfod y dull sy’n gweithio i ti.

Mae ein grwpiau stiwdio llai yn creu amgylchedd cefnogol, cydweithredol lle bydd ein tîm angerddol o weithwyr proffesiynol dylunio yn dy helpu i feithrin hyder creadigol a phortffolio proffesiynol.

📢 Gellir gwneud cais nawr trwy Glirio i ddechrau’r mis Medi hwn.

Dolen yn y bio

MyfyrwyrDylunio Clirio2026

Mae PCYDDS wedi dod yn 2il yn y DU ac yn 1af yng Nghymru yn nadansoddiad y Times Higher Education o’r Arolwg Cenedlaetho...
22/07/2026

Mae PCYDDS wedi dod yn 2il yn y DU ac yn 1af yng Nghymru yn nadansoddiad y Times Higher Education o’r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr (NSS), am yr ail flwyddyn yn olynol! 🎉

Diolch o galon i’n myfyrwyr am rannu eu profiadau a gwneud y cyrhaeddiad hwn yn bosibl. 💙

🎉 Llongyfarchiadau enfawr i Sophie Drew, un o’n graddedigion Patrymau Arwyneb a Thecstilau, ar gyrraedd y rhestr fer ar ...
20/07/2026

🎉 Llongyfarchiadau enfawr i Sophie Drew, un o’n graddedigion Patrymau Arwyneb a Thecstilau, ar gyrraedd y rhestr fer ar gyfer rhaglen fawreddog TED +26 a’i dewis yn un o ddim ond 25 i gyrraedd y rownd derfynol ac arddangos yng Ngholeg y Celfyddydau Chelsea, Llundain.

Rydym yn hynod falch o weld gwaith Sophie’n cael ei gydnabod ar lwyfan mor fawreddog. Dymunwn y gorau iddi ar gyfer yr arddangosfa! ✨

Darllenwch ragor yn ein hystafell newyddion - dolen yn y bio ☝️

Address

Dynevor Campus
Swansea
SA13

Alerts

Be the first to know and let us send you an email when Celf a Dylunio Pcydds : Art and Design UWTSD posts news and promotions. Your email address will not be used for any other purpose, and you can unsubscribe at any time.

Contact The University

Send a message to Celf a Dylunio Pcydds : Art and Design UWTSD:

Shortcuts

Share